07

Lacharn

Mae Talacharn yn hynod. Nododd Dylan ar ei ymweliad cyntaf yn 1934 ac yntau’n 19 oed mai hon oedd y dref ryfeddaf yng Nghymru. Roedd yn synnu bod y bobl yn siarad ag acen Seisnig gref a bod gan Lacharn ymdeimlad cosmopolitan. Dyma ddyn oedd yn dwlu ar lan y môr, natur, trafod llenyddiaeth, diwylliant y dafarn, cymeriadau a storïau ac roedd Lacharn yn cynnig hyn i gyd a mwy.

Mae pobl yn dod ar bererindod i Lacharn i weld y Boathouse lle'r oedd Dylan yn byw a mynwent Eglwys Sant Martin lle mae ef a Caitlin wedi’i gladdu. Mae'r Boathouse ei hun o dan berchenogaeth Talacharn a sefydlwyd yn 1270, ac sy'n dal llys yn rheolaidd, a gadeirir gan Portreeve ac a fynychir gan yr Aldermen a'r bwrdeisiaid.

Mae Lacharn yn dref brysur o hyd ac mae ganddi dîm rygbi, carnifal, regata a chôr, sef The Corran Singers ac hefyd yn gartref i’r Laugharne Players, cwmni theatr amatur sydd wedi bod yn perfformio ‘Under Milk Wood’ ers 1958.

Mae gan Lacharn amrywiaeth o atyniadau eraill hefyd gan gynnwys caffis, tafarnau, bwytai, siopau anrhegion, Rhodfa Pen-blwydd Dylan, Gwesty Browns, hoff le yfed Dylan, sydd newydd gael ei ailwampio. Yr atyniadau diddorol eraill yn yr ardal yw Canolfan Grefftau Y Gat yn Sanclêr, Amgueddfa Cyflymder ym Mhentywyn a Chanolfan Hywel Dda yn Hendy-gwyn ar Daf.

Rhaid rhoi’r gair olaf am Lacharn i’r dyn ei hun. Dyma ddisgrifiad gwych Dylan Thomas o’r lle:

'.. A black -magical bedlam by the sea.. timeess, beautiful, barmy (both spellings).. there is nowhere like it anywhere at all.'