01

Cyflwyniad

Gan ein bod bellach ar Oriau’r Haf, bydd y tŷ a’r ystafell de nawr ar agor o 10.00yb – 5.00yp (archebion olaf 4.45yp) dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun.

 

Nid oes angen archebu ymlaen llaw ond oherwydd maint y tŷ dim ond 12 o ymwelwyr gaiff fynd y tu mewn iddo ar unrhyw adeg. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn â rhif wrth ddesg y dderbynfa a gofynnwn i chi ddychwelyd y tocyn hwn ar ddiwedd eich ymweliad. Mae nifer cyfyngedig o seddi yn yr ystafell de y tu allan y gellir cael mynediad atynt o'r tu allan a lle byddwn yn cynnig detholiad o gacennau cartref a diodydd.  

Gallai mynediad i'r tŷ a'r ystafell de fod yn heriol i bobl â phroblemau symudedd gan fod 40 gris i'r tŷ a 24 gris i'r patio lle bydd lluniaeth yn cael ei gynnig. Nid oes mynediad i gadeiriau olwyn na thoiled i bobl anabl.  

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Gartref Dylan Thomas mor ddiogel â phosibl 

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o gyhoeddi bod Cartref Dylan Thomas yn Nhalacharn yn ailagor yn rhannol.

Hyd yn oed pe bai’r bardd, yr awdur a’r darlledwr Dylan Thomas (1914-1953) heb fyw yn y Boathouse yn Lacharn am bedair blynedd olaf ei fywyd truenus o fyr, mae’n lle gwirioneddol hynod i ymweld ag ef.

Mae teras y Boathouse yn cynnig golygfeydd godidog dros aber afon Taf a Bro Gŵyr y tu hwnt. Mae ystafell de’r Boathouse gyda’i detholiad o fwyd cartref o ffynonellau lleol yn cynnig seibiant i’w groesawu i gerddwyr sy’n mynd i’r afael â Llwybr Arfordir Cymru.

Dylan Thomas, fodd bynnag, a wnaeth y Boathouse yn eicon. Dyma’r adeilad sy’n cael ei gysylltu’n agosaf gydag ef, a diolch i sefydlogrwydd ei gartref parhaol yno cafodd adfywiad creadigol. Byddai’n gweithio yn y Sied Ysgrifennu uwchben y Boathouse gyda’i golygfeydd hynod dros bedwar aber, a gynigiai ysbrydoliaeth iddo.

02

Dylan a'r Boathouse

Archwilio
03

Cynlluniwch eich ymweliad

Archwilio
04

Ystafell De

Archwilio
05

Oriel

Archwilio
06

Addysg

Archwilio
07

Lacharn

Archwilio