02

Dylan a'r Boathouse

*** Oherwydd rhybudd tywydd garw, bydd y Boathouse ar gau ddydd Gwener 18 Chwefror. Gwiriwch y wefan hon am unrhyw ddiweddariadau pellach ***

Cyrhaeddodd Dylan Thomas Lacharn am y tro cyntaf yn 1934 yn 19 oed. Daeth gyda chyfaill ar y fferi o ochr arall aber afon Taf a byddai wedi glanio ychydig y tu ôl i’r Boathouse. Cafodd ei swyno ar unwaith gan Lacharn.

O’r Boathouse y cychwynnodd Dylan ar y daith dyngedfennol i Efrog Newydd, lle bu farw yn 1953 yn 39 oed; marwolaeth gynnar a drodd ddyn dawnus yn un o gewri llenyddiaeth.

Mae gan deulu Dylan gysylltiad cryf iawn â’r Boathouse o hyd. Daeth Aeronwy, unig ferch Dylan, yn llysgennad dros ei waith ac yn awdur dawnus ei hun. Ers ei marwolaeth cyn pryd yn 2009 mae’r rôl wedi’i throsglwyddo i’w merch, Hannah Ellis, sy’n ymweld â’r Boathouse yn rheolaidd gyda’i theulu. Mae teulu Dylan Thomas yn teimlo’n gartrefol iawn yma o hyd.