Ddatganiad Hygyrchedd

Nid oes mynediad diogel i gerbydau i’r ‘Boathouse’ ac nid oes cyfleusterau parcio.

Saif y ‘Boathouse’ ar hyd Rhodfa Dylan yn Lacharn, a gellir cyrraedd yr adeilad naill ai o Stryd Victoria neu o’r sarn sy’n arwain o’r maes parcio ar y Grist o dan y castell. Mae llwybr serth o’r sarn i Stryd Victoria neu mae dwy set o risiau carregog hyd at Rodfa Dylan. Mae’r sarn dan ddŵr pan fydd y llanw’n uchel.

Mae Rhodfa Dylan yn eithaf gwastad yr holl ffordd, er nad yw’r wyneb yn llyfn ym mhob man.

Mae’n rhaid cerdded i lawr chwe chyfres o risiau (41 gris i gyd) i gyrraedd yr adeilad. Mae canllaw ar gael yno.

Mae’r drws blaen 33 modfedd o led ac mae’n arwain at y siop. Mae grisiau a chanllaw i lawr at yr ystafell de a’r teras, ac mae grisiau a chanllaw i fyny i’r llawr uchaf ac i’r ardal arddangos.

Mae’r toiledau ar y teras ond nid oes toiledau i bobl anabl.