Gan ein bod bellach ar Oriau’r Haf, bydd y tŷ a’r ystafell de nawr ar agor o 10.00yb – 5.00yp (archebion olaf 4.45yp) dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun.
Nid oes angen archebu ymlaen llaw ond oherwydd maint y tŷ dim ond 12 o ymwelwyr gaiff fynd y tu mewn iddo ar unrhyw adeg. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn â rhif wrth ddesg y dderbynfa a gofynnwn i chi ddychwelyd y tocyn hwn ar ddiwedd eich ymweliad. Mae nifer cyfyngedig o seddi yn yr ystafell de y tu allan y gellir cael mynediad atynt o'r tu allan a lle byddwn yn cynnig detholiad o gacennau cartref a diodydd.
Er mwyn diogelu ein staff a'n hymwelwyr, byddem yn eich annog i wisgo gorchudd wyneb y tu mewn i'r tŷ a defnyddio'r hylif diheintio a ddarperir. Peidiwch ag ymweld os oes gennych symptomau Covid.
Gallai mynediad i'r tŷ a'r ystafell de fod yn heriol i bobl â phroblemau symudedd gan fod 40 gris i'r tŷ a 10 gris i'r patio lle bydd lluniaeth yn cael ei gynnig. Nid oes mynediad i gadeiriau olwyn na thoiled i bobl anabl.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Gartref Dylan Thomas mor ddiogel â phosibl
Oriau agor y gaeaf yw rhwng Hydref a Mawrth
Mae'r ystafell de y tu allan ar agor dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun 10.30am - 3pm (Archebion olaf 2.45pm)
Oriau agor yr haf yw rhwng Ebrill a Medi
Gan ein bod bellach yn gweithredu oriau agor yr haf, bydd y tŷ a'r ystafell de ar agor rhwng 10am a 5pm (archebion olaf 4.45pm) o ddydd Iau i ddydd Llun. Ar gau bob dydd Mawrth a dydd Mercher.
Oedolion – £6
Consesiwn – £5.50
Plant 5-18 – £3
Plant o dan 5 oed – Am ddim
Ystafell de yn unig – Am ddim
Mae Cartref Dylan Thomas yn cynnig amrywiaeth, byrbrydau ac amrywiaeth o ddiodydd i’r cyhoedd. Wedi’i bobi’n ffres bob dydd yn defnyddio cynnyrch lleol pan fo’n bosib.
Ni ellir mynd â chŵn i mewn i’r tŷ, ond gallen nhw fynd i’r ardd ac ar y teras, ond rhaid eu cadw ar dennyn bob amser. Caniateir cŵn tywys yn y tŷ
Cartref Dylan Thomas,
Rhodfa Dylan, Lacharn,
Sir Gaerfyrddin, SA33 4SD
T: 01994 427420
E: cartrefdt@sirgar.gov.uk
Twitter: dtboathouse
Facebook: cartrefdylanthomasboathouse
Croesewir ymweliadau grŵp i'r tŷ, er y byddai archebu ymlaen llaw yn cael ei gynghori. Gweler y dudalen ymweliadau am ragor o wybodaeth ar sut i archebu
Nid oes mynediad i gerbydau na chyfleusterau parcio wrth y Cartref. Mae parcio hygyrch ar gael yn y maes parcio cyhoeddus yn Nhalacharn,
Mae'r Cartref yn daith gerdded 10-15 munud o ganol Talacharn ar hyd Taith Dylan, rhan ohoni sy'n mynd i fyny, gan basio'r Sied Ysgrifennu y gellir ei gweld o'r llwybr. Ar ôl cyrraedd y tŷ mae nifer o risiau serth i lawr. Mae mynediad yn anaddas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn neu'r rhai sydd â nam symudedd difrifol.
Mae Cartref Dylan Thomas ar gael i'w logi'n breifat y tu allan i oriau agor. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.
Yn gyffredinol, nid yw'r Sied Ysgrifennu ar agor i'r cyhoedd er ei bod yn bosibl trefnu ar gyfer ymweliadau preifat. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.