04

Ystafell De

Gan ein bod bellach yn gweithredu oriau agor yr haf, bydd y tŷ a'r ystafell de ar agor rhwng 10am a 5pm (archebion olaf 4.45pm) o ddydd Iau i ddydd Llun. Ar gau bob dydd Mawrth a dydd Mercher.  

Nid oes tâl mynediad i ystafell de Dylan Thomas, sydd ar agor bob dydd, lle'r ydym yn gwerthu cawl, cinio ysgafn a byrbrydau, yn ogystal â chacennau cartref fel picau ar y maen, sgonau a bara brith. Rydym hefyd yn gwerthu amrywiaeth o ddiodydd o goffi hidlo, i siocled poeth gyda hufen a malws melys.

Gallwch eistedd y tu mewn, yn hen ystafell fyw’r teulu gyda’i llawr teils chwarel gwreiddiol, neu y tu allan ar y teras gyda’i olygfeydd godidog dros yr aberoedd – lle i eistedd ac ymlacio’n llwyr.

Mae ein holl fwyd yn cael ei wneud yn ffres ar y safle ac rydym yn defnyddio cynhwysion lleol lle bynnag y bo modd.

 

Ystafell de
Cartref Dylan Thomas