CYFARWYDDIADAU CYRRAEDD

51.7722085,-4.456200599999988,13

CYSYLLTU Â NI

Cartref Dylan Thomas
Rhodfa Dylan, Lacharn
Sir Gaerfyrddin, SA33 4SD

t: 01994 427420
e: cartrefdt@sirgar.gov.uk

Rheoli gan Cyngor Sir Gar Discover Dylan Thomas

Lacharn

Mae Talacharn yn hynod. Nododd Dylan ar ei ymweliad cyntaf yn 1934 ac yntau’n 19 oed mai hon oedd y dref ryfeddaf yng Nghymru. Roedd yn synnu bod y bobl yn siarad ag acen Seisnig gref a bod gan Lacharn ymdeimlad cosmopolitan. Dyma ddyn oedd yn dwlu ar lan y môr, natur, trafod llenyddiaeth, diwylliant y dafarn, cymeriadau a storïau ac roedd Lacharn yn cynnig hyn i gyd a mwy. Cymaint hynny nes iddi ysbrydoli tref ffuglennol Llareggub yn ‘Under Milk Wood’. Adroddwyd llawer o’r storïau a ddefnyddiodd yn y ddrama ym mar a chegin Gwesty Browns, lle byddai’n mwynhau cwmni ei gyfeillion mynwesol, Ebie ac Ivy Williams.

Roedd gan Dylan ymdeimlad cryf o'r gorffennol a byddai wedi cydnabod nad dim ond gweddu i’w gymeriad bohemaidd yr oedd Lacharn, ond ei bod yn hynafol hefyd. Mae tystiolaeth o bobl yn byw yn yr ardal yn y cyfnod cynhanesyddol, mor bell yn ôl â 50,000CC. Roedd ei lleoliad ar aber afon Taf yn golygu bod iddi bwysigrwydd milwrol strategol ac mae ei chastell cyn-Normanaidd yn un o driawd o gestyll mawr gyda Llansteffan a Chydweli sy’n gwarchod aberoedd afonydd Tywi a Gwendraeth ar draws Bae Caerfyrddin. Disgrifiad enwog Dylan o gastell Lacharn oedd ‘…brown as owls.’

Rhoddwyd statws Corfforaeth i’r drefgordd trwy Siarter Frenhinol yn 1297. Mae ganddi lys sy’n cynnwys Porthfaer, yr Henaduriaid a chorff o Fwrdeisiaid. Mae system amaethu ganoloesol ‘caeau agored’ Lacharn yn un o ddim ond dwy sy’n cael eu defnyddio hyd heddiw ym Mhrydain. Mae’r arferion sy’n gysylltiedig â’r Gorfforaeth yn cynnwys cerdded y terfynau, sy’n digwydd ar y Llungwyn bob tair blynedd, pan fo’r rhai cadarn o gorff ymysg y boblogaeth leol yn cerdded 20 milltir o gwmpas terfynau tiroedd y Gorfforaeth. Ger mannau hanesyddol arwyddocaol caiff rhywun anffodus ei ddewis i enwi’r lle. Os na all ateb, caiff ei godi ben i waered a’i guro’n ddefodol tair gwaith ar y pen ôl ac yna dywedir wrtho beth yw enw’r lle. Cymorth cof effeithiol iawn!

Bob blwyddyn cynhelir noson y Llys Mawr, ar y nos Lun gyntaf ar ôl Gŵyl Fihangel. Yno mae’r Porthfaer yn cael ei “wneud” ac mae rheithgor newydd yn cael ei alw o blith y Bwrdeisiaid, y disgwylir iddynt i gyd fod yn bresennol i ateb eu henwau wrth iddynt gael eu galw. Y dydd Sul canlynol mae’r Porthfaer yn cynnal Brecwast dinesig a ddilynir gan orymdaith o Neuadd y Dref i oedfa yn Eglwys Sant Martin, i goffau’r Gorfforaeth a gofyn am fendith arni, ac wedyn ceir dathliadau mwy seciwlar yn y tafarnau lleol! Gwahoddwyd Dylan i’r achlysur hwn ym mis Hydref 1953 ond ysgrifennodd at y Porthfaer nad oedd yn gallu mynd, yn anffodus, oherwydd bod yn rhaid iddo deithio i’r Unol Daleithiau. Dyna’r llythyr olaf a ysgrifennodd erioed.

Mae’r diwydiant casglu cocos oedd mor hanfodol i ddatblygiad y dref wedi diflannu, bron, ond mae’r tai Georgaidd mawreddog ar y stryd fawr yn tystio i ffyniant y dref yn yr hen ddyddiau. Roedd gan lawer ohonynt ystafelloedd dawnsio, sy’n arwydd o fywyd y boneddigion yn yr oes a fu. Mae Lacharn yn dref brysur o hyd ac mae ganddi dîm rygbi, carnifal, regata a chôr, sef The Corran Singers. Mae hefyd yn gartref i’r Laugharne Players, cwmni theatr amatur sydd wedi bod yn perfformio ‘Under Milk Wood’ ers 1958.

Nid Dylan Thomas oedd yr unig un i gael ei swyno gan Lacharn, chwaith - mae Coleridge, Turner, Mary Shelley, Kingsley Amis, Richard Hughes ac Edward Thomas, ymysg eraill, wedi byw neu aros yma. Yn fwy diweddar mae’r Arlywydd Carter, Peter O’Toole, Mick Jagger a Patti Smith i gyd wedi dod ar bererindod i Lacharn i weld y Boathouse lle'r oedd Dylan yn byw a mynwent Eglwys Sant Martin lle mae wedi’i gladdu.

Mae gan Lacharn amrywiaeth o atyniadau eraill hefyd gan gynnwys caffis, tafarnau, bwytai, siopau anrhegion, Rhodfa Pen-blwydd Dylan, amgueddfa hynod yr Ail Ryfel Byd yn y Sied Sinc a Gwesty Browns, hoff le yfed Dylan, sydd newydd gael ei ailwampio. Cynhelir Penwythnos Lacharn, gŵyl lenyddiaeth a cherddoriaeth, yn y dref bob blwyddyn. Yr atyniadau diddorol eraill yn yr ardal yw Canolfan Grefftau Y Gat yn Sanclêr, Amgueddfa Cyflymder ym Mhentywyn a Chanolfan Hywel Dda yn Hendy-gwyn ar Daf.

Rhaid rhoi’r gair olaf am Lacharn i’r dyn ei hun. Dyma ddisgrifiad gwych Dylan Thomas o’r lle:

‘…A BLACK-MAGICAL BEDLAM BY THE SEA… TIMELESS, BEAUTIFUL, BARMY (BOTH SPELLINGS)... THERE IS NOWHERE LIKE IT ANYWHERE AT ALL.’