CYFARWYDDIADAU CYRRAEDD

51.7722085,-4.456200599999988,13

CYSYLLTU Â NI

Cartref Dylan Thomas
Rhodfa Dylan, Lacharn
Sir Gaerfyrddin, SA33 4SD

t: 01994 427420
e: cartrefdt@sirgar.gov.uk

Rheoli gan Cyngor Sir Gar Discover Dylan Thomas

THOMAS YN EI GYD-DESTUN

LLINELL AMSER 1914-60

Llinell amser wedi’i llunio’n arbennig gan Dr. John Goodby o ddigwyddiadau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol yn ystod bywyd Dylan Thomas (.pdf)

Llinell Amser


CRYNODEB LLENYDDOL: DYLAN THOMAS 1914—1953

Gan dynnu ar y traddodiad barddol sydd i’w weld o hyd mewn cystadlaethau barddoniaeth yn y Gymraeg, mae Dylan Thomas hefyd wedi cynnwys nifer o ddylanwadau barddonol modernistaidd Ewropeaidd yn ei weithiau hynod bersonol a dwys ond bach eu nifer. Er iddo aros yn agos at farddoniaeth lafar (fel y tystia'r sylw unigryw a roddodd i batrymau sain), yn ei gerddi cynnar mae’n dangos effeithiau swrealaeth Gyfandirol, a hynny efallai’n fwy nag unrhyw fardd arall o’r un bri yn y Saesneg. Gerard Manley Hopkins; cynghanedd a strwythurau cymhleth barddoniaeth Gymraeg; cerddi T. S. Eliot ac, mewn ymateb i gyfeiriadau beirniadaeth Eliot, beirdd crefyddol Lloegr o’r ail ganrif ar bymtheg (Donne, Herbert, Vaughan, Crashaw); llyfrau James Joyce, ‘A Portrait of the Artist as a Young Man’ a ‘Ulysses’; traddodiad crefyddol Cymreig gweledigaethol a ddylanwadodd ar Gatholigiaeth ei gydwladwr David Jones, ac a ddaeth yng ngwaith Thomas yn sail i fath o ddefnydd paganaidd o fytholeg Gristnogol - ceir elfennau o’r rhain i gyd yn ei gerddi ac yn ei nifer fach o weithiau rhyddiaith sy’n agos atoch ac yn ysgogi emosiwn.

Cafodd Thomas ei eni yn Abertawe a’i addysgu yn yr ysgol ramadeg yno. Wedyn bu’n gweithio fel newyddiadurwr, a denodd sylw ac yntau’n eithaf ifanc o hyd oherwydd ei farddoniaeth ddwys, athrylithgar ac astrus. Ynghudd yng ngwead cymhleth ei gyfrolau cynnar — 18 Poems (1934), The Map of Love (1939), a Deaths and Entrances (1946; cymerwyd ei theitl o bregeth olaf John Donne, "Death’s Duel") — yr oedd rhywioldeb dwys, cysylltu themâu rhywiol â mytholeg grefyddol, a chyfeiriadau anunion modernaidd rhaglennol, sy’n defnyddio ansoddeiriau a dyfaliadau dyrys i sefyll am y gwrthrych a grybwyllir, ac sy’n dibynnu ar eiriau mwys ar adegau, bron yn null croeseiriau anodd. Yn ei farddoniaeth a gyhoeddwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac yn arbennig yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd, pan deithiai o gwmpas yr Unol Daleithiau gan roi darlleniadau lliwgar a soniarus o’i waith, arddull mwy rhadlon a haws i’r cyhoedd ei ddeall a gaed yn bennaf yn ei waith.

Roedd Thomas yn gartrefol, yn fydryddol, gyda rhythmau iambig y beirdd o’r ail ganrif ar bymtheg yr oedd yn eu hedmygu, a gyda "sprung rhythm" (chwedl Hopkins) acennog llac oedd yn cynnwys llawer iawn o odlau mewnol a chyflythrennu. Mae ei gerdd hir ‘Vision and Prayer’ hyd yn oed yn mabwysiadu dau batrwm graffig yn null Herbert ar gyfer ei phenillion. Byddai’n gadael i’w ddelweddau esblygu trwy gystrawennau gramadegol dieithr ac afreolaidd - y math o beth yr oedd E. E. Cummings wedi’i wneud yn gyfarwydd mewn barddoniaeth Americanaidd yn ystod y 1940au hwyr ymlaen, ond nad oedd W. H. Auden a’i ddilynwyr erioed wedi’i fabwysiadu’n frwd - yn amrywio o’r ymadrodd syml "a grief ago" i bob math o droi enwau’n ferfau a chreu cyfansoddeiriau, oedd yn nerthol ond wedi’u hystumio. Denodd y darnau diweddarach yn ei gyfrol ‘Collected Poems’ (1957), ei ddrama radio ‘Under Milk Wood’ a rhai darnau hwyr o ryddiaith e.e. ‘A Child’s Christmas in Wales’ (1955) gynulleidfa eang iddyn nhw eu hunain, ond nid i’w waith cynharach, oedd efallai’n fwy diddorol.